QS
Twitter - Ysgol Llandygai
(+44) 01248-352163
Siarter Iaith Gymraeg
Sgôr Hylendid Bwyd - 5
Stonewall - Acceptance without exception
Ysgol Iach Gwynedd
Gwobr y Faner Werdd
Ysgol Llandygai, Llandygai,
Bangor, Gwynedd. LL57 4HU
Ffôn:
Class Dojo
Ysgol Werdd - Efydd, Arian ac Aur
Gwefan Ymatebol - Pobol y We
DOSBARTH AWEL - Blwyddyn 3 a 4
Mrs Emma V Davies - Athrawes Ddosbarth / Dirprwy Bennaeth
Croeso i dudalen dosbarth Awel, dosbarth ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4. Ein thema ni tymor yma yw ‘Ni Ein Hunain’.
Rydym wedi bod yn darllen y llyfr ‘Nainosor’ yn ystod yr hanner tymor gyntaf. Bu’r disgyblion yn brysur yn llunio holiadur i osod fel gwaith cartref i’w hunain er mwyn holi cyfres o gwestiynau i Nain. Yn dilyn hyn, aethant ati i ysgrifennu portread o’u neiniau. Cafwyd gwaith llawn disgrifiadau, cymariaethau a geiriau gwefreiddiol!
Mae’r plant wedi bod yn brysur yn astudio Portreadau amrywiol fel rhan o’n gwaith celf y tymor yma. Cafwyd llawer o hwyl yn gwehyddu papur lluniau lliw ohonyn nhw eu hunain gyda lluniau du a gwyn o’u hunain.
Yn dilyn hyn, fel un ffocws o’n gwersi AbaCh y tymor yma, ‘dathlu gwahaniaethau ein gilydd’,  cawsom brynhawn yn trafod ac yn arddangos ‘Yr hyn sy’n arbennig amdana i yw...’. Datblygwyd ymwybyddiaeth y disgyblion o swigod siarad ag aethant ati i gofnodi’r hyn sy’n arbennig amdanyn nhw’u hunain yn y swigod.
Bydd y plant yn symud ymlaen rŵan i edrych ar bortreadau abstract Paul Klee drwy arbrofi gyda phasteli olew!
Cawsom ymweliad gan Mared o Bontio ar gychwyn y tymor er mwyn datblygu ymwybyddiaeth y disgyblion o’u synhwyrau a’u teimladau. Cawsom fore difyr yn ymateb i gerddoriaeth o bob genre a chael cyfle i ddawnsio a mynegi ein teimladau drwy gerddoriaeth! Diolch Mared, cafodd y disgyblion modd i fyw! 
Fel rhan o’n thema Gwyddoniaeth y tymor yma, rydym wedi bod yn edrych ar y corff; yn benodol y sgerbwd a’r organau. Aeth y disgyblion yna ati i ymchwilio i’r cwestiwn - ‘Oes gan y plentyn talaf, y breichiau hiraf?’ Gweler isod y plant yn mesur mewn centimedrau ac yn bwydo eu gwaith i mewn i J2Data. Aeth y disgyblion yna ati i lunio casgliad syml o’u darganfyddiadau a defnyddio’r lindysyn i feddwl sut maen nhw wedi llwyddo i ddysgu!
Cafodd y disgyblion brynhawn o hwyl yn gwylio’r sioe ‘Trefi Taclus’. Bu’m wrthi’n dysgu’r caneuon er mwyn ymuno mewn yn y sioe ac yn cael llu o hwyl yn dawnsio i gyfleu’r neges - Arbed, Ailddefnyddio, Ailgylchu!
Fel rhan o ddathlu diwrnod T.Llew Jones, aethom ati i astudio’i gerdd ‘Noson Tân Gwyllt’. Cafodd y disgyblion yna ysbrydoliaeth i lunio darn o gelf!
O fewn y dosbarth, mae gennyn ni ardal fyfyrio. Mae’r plant yn cael mynd yno i feddwl neu ddarllen straeon o’r Beibl neu i ddarllen straeon amrywiol am deimladau'r tymor yma; sy’n cyd-fynd gyda’n thema! Mae’r plant hefyd yn mwynhau sesiwn fyfyrio tawel gyda cherddoriaeth i gloi ein gwersi addysg Gorfforol yn wythnosol!
Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai  
Croeso i  wefan