QS
Twitter - Ysgol Llandygai
(+44) 01248-352163
Siarter Iaith Gymraeg
Sgôr Hylendid Bwyd - 5
Stonewall - Acceptance without exception
Ysgol Iach Gwynedd
Gwobr y Faner Werdd
Ysgol Llandygai, Llandygai,
Bangor, Gwynedd. LL57 4HU
Ffôn:
Class Dojo
Ysgol Werdd - Efydd, Arian ac Aur
Gwefan Ymatebol - Pobol y We
Prif Ddisgyblion NEWYDD !
Pleser yw cael cyflwyno ein Prif Ddisgyblion am eleni sef, Isla (Prif Ferch), Cadi (Dirprwy), Samuel (Prif Fachgen) a Cain (Dirpwy). Fe’u hetholwyd yn llwyddiannus yn dilyn wythnos o ymgyrch brwd a chan ddilyn cyflwyno eu maniffestos. Cafodd pob disgybl gyfle i fwrw eu pleidlais a chynhaliwyd gwasanaeth arbennig iawn er mwyn cyflwyno’r pedwar llwyddiannus.


Buom yn ddigon ffodus o gael Hywel Williams AS i dreulio amser gyda disgyblion yr ysgol cyn cyhoeddi enwau’r Prif Ddisgyblion yn y gwasanaeth. Mae ein diolch yn fawr i Mr Williams a hynny o wybod fod ganddo amserlen dynn  iawn.

Y CYNGOR YSGOL
Yn ddiymdroi, ymgymerodd y Prif ddisgyblion â’u rôl hynod bwysig.  Buodd y pedwar yn bresennol mewn Cynhadledd yn Llanrwst ar ddydd Mawrth y 3ydd o Hydref i gyfarfod â Sally Holland sef Comisiynydd Plant Cymru.

Cawsant ddiwrnod llawn i’r ymylon yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol i’w cefnogi i feddwl am syniadau gwych i’w rhoi ar waith yn yr ysgol. Mae’r pedwar wedi llunio camau gweithredu er mwyn codi ymwybyddiaeth disgyblion Ysgol Llandygai am hawliau plant.

Yn dilyn yr ymweliad, braf iawn oedd cael gweld fod Sally Holland wedi trydaru am ei phrofiadau efo disgyblion Llandygai @childcomwales.
Edrychwn ymlaen at weld ymdrechion y disgyblion yn cael effaith.
Cynhadledd Comisiynydd Plant Cymru
Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai  
Croeso i  wefan