QS
Twitter - Ysgol Llandygai
(+44) 01248-352163
Siarter Iaith Gymraeg
Sgôr Hylendid Bwyd - 5
Stonewall - Acceptance without exception
Ysgol Iach Gwynedd
Gwobr y Faner Werdd
Ysgol Llandygai, Llandygai,
Bangor, Gwynedd. LL57 4HU
Ffôn:
Class Dojo
Ysgol Werdd - Efydd, Arian ac Aur
Gwefan Ymatebol - Pobol y We
DOSBARTH TIRION - Blwyddyn 5 a 6
Mrs Nia Hughes - Athrawes Ddosbarth
Miss Sioned Hughes - Cymhorthydd ADY
Mrs Karen Desch - Cymhorthydd Meddygol
Thema Dosbarth Tirion (Blwyddyn 6) am y tymor yw “Yr Ail Ryfel Byd”.
Mae’n thema HYNOD o gyffrous
O fewn Llythrennedd rydym yn astudio’r nofel “Sais ydi O, Miss!” gan Brenda Wyn Jones yn y Gymraeg, ac yn Saesneg, ein nofel ddosbarth yw “Goodnight Mr.Tom” gan Michelle Magorian.
Mewn Rhifedd, rydym yn edrych ar ddogni bwyd, hen arian a hen fesurau, a mesur arwynebedd a pherimedr drwy gynllunio Gerddi Buddugoliaeth.
Edrychwch ar y prosiectau bendigedig yma o Lochesi Anderson!
Mae ein tasgau Gwyddoniaeth yn seiliedig ar “Oleuni a Swn”. Mae’r disgyblion wedi bod yn brysur yn gwneud ymholiadau edrych o gwmpas gorneli ac yn mesur onglau adlewyrchiad, cyn mynd ati i greu perisgops fel rhan o waith Dylunio a Thechnoleg. Yr hanner tymor nesaf, byddwn yn ymchwilio a sut fath o ddefnydd fyddai’n gwneud y llenni ‘blacowt’ gorau ac hefyd, byddwn yn creu peiriant ‘Morse Code’!
O fewn y gwersi Addysg Grefyddol ac A.B.a Ch, rydym yn edrych i fewn i’r cwestiwn “A Oes Heddwch?”. Yn deillio o hyn, rydym yn edrych ar gredoau crefyddau eraill am heddwch, ac wrth gwrs, yn edrych ar symbolau fel y pabi Coch.
Fel ym mhob dosbarth, mae gennym ninnau ardal fyfyrio sydd wedi ei gynllunio a’i greu gan y disgyblion. Bydd aelodau o’r dosbarth yn mwynhau treulio ychydig o amser yn yr adral yn gweddio a myfyrio neu darllen ambell stori o’r Beibl.
Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai     Ysgol Llandygai      Ysgol Llandygai  
Croeso i  wefan